Y Capel Cymraeg: Cymdogaeth a Pherfformiad

English

Mae’r ymchwil hwn yn ystyried cyfraniad ffurfiau ar berfformiad yn y capel Cymraeg at greu ymdeimlad ac ymwybyddiaeth o gymdogaeth. Ymchwilir y berthynas rhwng perfformiad a’r capel mewn termau hanesyddol a chyfredol. Edrychir yn ogystal ar y berthynas gynhenid rhwng cymdogaeth y capel a gofod y capel trwy ddamcaniaeth ac ymarfer.

Adeiladau a grëwyd mewn ymateb i alwad ymneilltuaeth yw’r capeli Cymraeg. Nid addoldai yn unig mohonynt, ond ymrysonfeydd cwbl Gymraeg. Maent yn hafan i’r Cymry fedru mynegi eu crefydd, iaith a’u diwylliant mewn modd sydd yn eu diffinio fel endid sydd ar wahân. Cynsail y capeli yw’r gwasanaethau Cristnogol a gynhelir ynddynt. Ond rhy’r capeli mwy na chrefydd yn unig i’r gymdogaeth. Gall y gymdogaeth Gymraeg fodoli ar ei dermau ei hun ynddynt, trwy fynegiant, neu berfformiad cynhenid. Dywaid nifer o Gymry eu bod yn perthyn i Gapel, neu’n rhan ohono, yn yr un modd dywedir eu bod yn perthyn i, neu’n rhan o deulu. Mae i wead y capel sawl math o ryngweithio cymdogaethol sydd yn bosib eu diffinio yn nhermau perfformiad.

Mae’r ymchwil yma yn gofyn a all damcaniaeth perfformiad fynd ati i esbonio ymdeimlad o berthyn at le a chymdogaeth yng nghyd-destun y capel? I ba raddau gall perfformiadau ymarferol mewn capeli fynd ati i’n goleuo parthed ymdeimlad o berthyn at y lle a’r gymdogaeth? A yw perthynas perfformiad a’r capel wedi newid erbyn heddiw, a pha effaith y mae hyn yn ei gael ar y gymdogaeth? A all perfformiad mewn ffurf ddramataidd ac mewn ffurfiau haniaethol gyd-blethu mewn capel i greu gwead ‘perfformiad Cymraeg?’ A yw capel Cymraeg yn cynnal ‘perfformiad Cymraeg?’

Mae tri llwybr wedi bod i’r gwaith ymchwil hyd yn hyn. Yn gyntaf, mae’r adolygiad llenyddol sy’n cynnwys ysgrifau mewn damcaniaethau perfformio, athroniaeth yngl?n â gofod, ffenomenoleg ac anthropoleg, yn ogystal ag enghreifftiau o waith ymarferol perthnasol. Yn ail, mae rhannau o fy ngwaith yn hunan-ethnograffig; hynny yw, yn cynnig llais ffenomenolegol sydd yn adweithio i’r ymchwil, gan fy mod yn gosod fy hun o fewn yr ymchwil fel perfformwraig a Chymraes sydd yn ‘rhan o’ gapel. Yn drydydd, byddaf yn ymgymryd â gwaith ymarferol a chreadigol gyda chymdogaethau gwahanol i weld i ba raddau y gallaf i’n bersonol a’r gymdogaeth Gymraeg gyfoes berfformio mewn modd cynhenid Gymraeg mewn capel. Bydd ymchwil ymarferol yn cyfrannu at hanner pwysiad y PhD a bydd yn cynnwys perfformiad unigol mewn tri chapel, ac yna cyfnod o greu perfformiadau cymdogaethol yn y capeli hynny. Medr y gwaith ymarferol gymhwyso damcaniaeth, a dadlenni’r berthynas rhwng gofod capel, perfformiad a hunaniaeth cymdogaeth; bydd hyn yn gyfraniad gwreiddiol. Bydd yr hanner ysgrifenedig yn cynrychioli adolygiad llenyddol o’r maes, adlewyrchiad o brosesau’r gwaith ymarferol, ac adolygiad o gasgliadau’r gwaith ymarferol yng ngoleuni damcaniaeth perfformiad i sylwebu ar y berthynas rhwng perfformiad a’r gymdogaeth.

Rhiannon Williams