Myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig

English

 

Iwan BalaEstheteg Warchodol
Cyfarwyddwr yr Astudiaethau: Yr Athro Lisa Lewis
Goruchwylwyr: Professor Mark Durden
Noddwr: Prifysgol De Cymru

Yn 1999 cyhoeddais lyfr o’r enw‘Certain Welsh Artists; Custodial Aesthetics in Contemporary Welsh Art’ (Seren),ac ynddoceisiais lunio term diffiniolar gyfer artistiaid a oedd yn ymwybodol o’u hunaniaeth Gymreig yn ddiwylliannol, yn wleidyddol ac yn hanesyddol, ac a oedd yn chwilio am ffyrdd o fynegi’r hunaniaeth hon drwy eu gwaith celf. Yn fwy na dim, materionyn ymwneud â 'hunaniaeth’ a roddodd i mi bwrpas ar gyfer ei ysgrifennu, ond ugain mlynedd yn ddiweddarach, mae’n dal i fod yn fater heb ei ddatrys y mae angen ymchwilio ymhellach iddo. Mae’r hyn a olygir wrth artist 'Cymreig’ yn dal i fod yn gwestiwn parhaol. Pa hunaniaeth? Hunaniaeth pwy? Nod yr ymchwil yw ehangu ar thesis cychwynnol’Custodial Aesthetics’ac archwilio sut,ac os, yw’n parhau i fod yn berthnasol ugain mlynedd yn ddiweddarach. Y prif gwestiwn yw; 'A yw ‘Estheteg Warchodol’ yn berthnasol yng Nghymru?’.



Gareth BonelloDeialogau Diwylliannol Cymreig a Chasi : Hunaniaeth mewn Alawonl
Cyfarwyddwr yr Astudiaethau: Yr Athro Lisa Lewis
Goruchwylwyr: Yr Athro Paul Carr, Dr Rhiannon Williams
Noddwr: Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Prifysgol De Cymru.

Rydw i’n astudio ar gyfer PhD ar gerddoriaeth bryniau Khasia, ardal o Ogledd Ddwyrain India yn nhalaith Meghalaya. Mae’r PhD y rhan o brosiect ymchwil fwy sydd yn edrych ar y cysylltiad rhwng Methodistiaid Calfinaidd Cymru a’r bobol Khasi. Ym 1841 anfonwyd Thomas Jones, cenhadwr cyntaf Cymdeithas Genhadol Gymreig i efengylu ym mryniau Khasia. Dechreuodd perthynas rhwng a ddwy gymuned wnaeth para hyd at 1969, pan adawodd y cenhadon olaf o ganlyniad i annibyniaeth India o’r ymerodraeth Brydeinig. Trwy addasu arddull ‘ymarfer trwy ymchwil’ mi fyddai’n astudio cerddoriaeth draddodiadol yr ardal ac yn archwilio’r perthynas rhwng diwylliant Cymraeg a Khasi, o’r gorffennol hyd heddiw. Fel cerddor ac yn ysgrifennydd gydag ymarfer broffesiynol fyddaf yn cyd-weithio gydag artistiaid o’r gymuned Khasi i gynhyrchu deunydd newydd sydd yn ymateb i fy ymchwil.


Alex Brady – Title: Celebrity in Small Nations.
Cyfarwyddwr yr Astudiaethau: Dr Rebecca Williams
Goruchwylwyr: Dr Lesley Harbidge, Yr Athro Ruth McElroy


Faye HannahDatblygu Talent yn Niwydiannau Sgrîn Cymru
Cyfarwyddwr yr Astudiaethau: Yr Athro Ruth McElroy
Goruchwylwyr: Dr Rebecca Williams, Michael Carklin
Noddwr: Prifysgol De Cymru

Mae talent a datblygu talent yn dermau sydd wedi dod yn hollbresennol ar draws y diwydiannau creadigol. Mae’r termau hyn yn berthnasol i drawstoriad eang iawn o’r gweithlu, ac wedi dod yn fwyfwy amlwg i ymchwilwyr a llunwyr polisi dros yr ugain mlynedd diwethaf. Mae’r ymchwil hwn yn archwilio i brosesau datblygu talent diwydiannau’r sgrîn a llafur creadigol yng nghyd-destun Cymru fel cenedl fach. Mae’n canolbwyntio ar effaith datblygiadau polisi ar y diwydiannau creadigol fel sector blaenoriaeth a chyfrannwr allweddol ar gyfer twf economaidd. Yn sylfaenol, mae’n ystyried y broses o gael mynediad i ddiwydiannau sgrîn greadigol Cymru yn ogystal â rôl addysg uwch wrth ddatblygu talent sgrîn greadigol yng Nghymru. Gosodir y profiad Cymreig mewn cyd-destun drwy gymhariaeth â chenedl fach arall yn Ewrop, sef Denmarc. Mae’r astudiaeth yn cynnwys dulliau cymysg, gan gynnwys cyfweliadau ansoddol, dadansoddiad o bolisi sy’n bodoli ac o ddogfennaeth ac ystadegau’r diwydiant, yn ogystal ag ymchwil ethnograffig ac wrth ddesg, er mwyn ffurfio persbectif trionglog diwydiant, addysg a’r gweithlu.



Luke ThomasDatblygu Strwythur i Gynnal Cerddoriaeth Boblogaidd yng Nghymru: Profiad y Cerddorion
Cyfarwyddwr yr Astudiaethau: Yr Athro Paul Carr
Goruchwylwyr: Dr Robert Smith & Yr Athro Ruth McElroy
Noddwr: Prifysgol De Cymru

Mewn adroddiad ar gyfer y Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig (Carr, 2011) nodwyd bod lle i wella’r gefnogaeth i gerddoriaeth boblogaidd gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Mae cyfranogwyr y diwydiant Cymreig yn rhoi’r argraff eu bod yn cyrraedd plateau yn eu gyrfa ac yna’n newid gyrfa neu symud allan o Gymru. Yn fwy diweddar, awgrymwyd mewn rhestr ddymuniad gan arbenigwyr o’r diwydiant cerddoriaeth (e.e. John Rostron ac Adam Walton) bod angen gwell ymgysylltiad rhwng Llywodraeth Cymru â’r sector cerddoriaeth boblogaidd, ynghyd â gwell cefnogaeth a hyfforddiant ar lawr gwlad, er mwyn sicrhau ffyniant cerddoriaeth boblogaidd Gymreig. Trwy gyfrwng cyfres o astudiaethau achos, mae’r ymchwil hwn yn archwilio sut mae gwneuthurwyr polisi Cymreig wedi gwerthuso cerddoriaeth boblogaidd ac yn y pen draw, sut mae mentrau sydd wedi datblygu o ganlyniad i hynny wedi dylanwadu ar yrfaoedd cerddorion poblogaidd yng Nghymru.