Effaith

Deialogau Diwylliannol Cymreig a Chasi: codi ymwybyddiaeth, effeithio ar arferion gwaith a chaniatáu gwell dealltwriaeth o'r broses artistig

Ychydig iawn sy'n hysbys am hanes y cyfnewid diwylliannol rhwng y Cymry a'r bobl Casi yng Ngogledd Ddwyrain India. Mae'r berthynas drawsddiwylliannol a chymhleth hon wedi'i gwreiddio ym mhresenoldeb y Cenhadon Bresbyteraidd Cymreig ym Mryniau Khasi a Jaiñtia rhwng 1841 a 1969. Mewn cyfnod o ymraniad cymdeithasol a diwylliannol ledled y byd, mae ymwybyddiaeth o sut mae ein hunaniaethau diwylliannol wedi cael eu heffeithio a sut mae ein hanes wedi cael ei ddiffinio gan berthnasoedd trawsddiwylliannol yn hollbwysig. Arweiniodd ymchwil gan yr Athro Lisa Lewis yn y Ganolfan Cyfryngau a Diwylliant mewn Cenhedloedd Bach (CMCSN) at y prosiect Deialogau Diwylliannol Cymreig a Chasi. Ariannwyd y prosiect gan yr Ymddiriedolaeth Leverhulme, lle’r oedd yr Athro Lewis yn Brif Ymchwilydd (2015-2019). Trwy'r prosiect celfyddydau a pherfformio rhyngddisgyblaethol hwn, archwiliodd ymchwilwyr ac artistiaid o India a Chymru’r gyfnewidfa ddiwylliannol Cymreig-Casi a'i heffeithiau ar hunaniaethau diwylliannol mewn cyd-destunau (ôl)trefedigaethol amrywiol. Roedd yr allbynnau creadigol cydweithredol yn cynnwys perfformiad theatr, a gyd-gynhyrchwyd gyda Chapter, Caerdydd a Lapdiang Syiem, India (2019), a thaith India-Cymru fel y Gydweithfa Khasi-Cymru (2020), yn ogystal â dangosiadau ffilm, perfformiadau cerddorol/gigs, arddangosfeydd ac albwm dan arweiniad Gareth Bonello. Hefyd, trafodwyd a darlledwyd y gwaith ar y teledu a'r radio yn y ddwy wlad.

Mae'r gwaith arloesol hwn wedi cynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ymhlith cymunedau yn India ac yng Nghymru o hanes y gyfnewidfa ddiwylliannol Cymreig-Casi, a phwysigrwydd ei drafod. Effeithiodd hefyd ar arferion gwaith ar gyfer artistiaid a gymerodd rhan, a hwyluswyr diwylliannol yn y ddwy wlad. Mae wedi dod yn fodel o gydweithio artistig rhyngwladol. Wrth rannu a datblygu gydag artistiaid, hwyluswyr diwylliannol a'r sector amgueddfeydd a threftadaeth, e.e. Amgueddfa Genedlaethol Cymru, arweiniodd y gwaith at well ddealltwriaeth o sut y gall ymarfer artistig ddatgelu hanesion cymhleth a chudd.

Mae effaith y gwaith hwn wedi cael ei chydnabod gan gynrychiolwyr diwylliannol yng Nghymru ac yn India, gan gynnwys Ymddiriedolaeth Genedlaethol Celfyddydau a Threftadaeth Ddiwylliannol India, Amgueddfa Genedlaethol Cymru ac Eglwys Bresbyteraidd Cymru. Cydnabuwyd yr ymchwil gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru yn ei hadroddiad 2020, Astudiaethau Cymreig: ymchwil am Gymru, i Gymru a’r byd, fel un o'r prosiectau sy'n datgelu ‘adroddiadau heriol o etifeddiaeth fyd-eang ein cenedl’.

Darparu tystiolaeth ymchwil arbenigol ar gyfer gwell cyfryngau sgrin, polisi a chynhyrchiad teledu cynaliadwy mewn Cymru ddatganoledig

Rhaid i bob system cyfryngau lywio cystadleuaeth fyd-eang ac arloesedd technolegol ar y naill law, a rheoleiddio cenedlaethol ac anghenion y cyhoedd ar y llaw arall. Mae cenhedloedd bach yn cael eu herio gan adnoddau cyfyngedig, grym cryfach cymdogion pwerus, a systemau llywodraethol aml-haen cymhleth fel sydd mewn Cymru ddatganoledig.

Darparodd ymchwil a gynhaliwyd gan Ganolfan Cyfryngau a Diwylliant mewn Cenhedloedd Bach (CMCSN) Prifysgol De Cymru (PDC) dan arweiniad yr Athro Ruth McElroy, dystiolaeth o fethiannau yng nghyfryngau’r DU a Chymru i adeiladu sffêr cyhoeddus democrataidd datganoledig digonol, er y pwerau deddfwriaethol cynyddol mewn gwledydd datganoledig.

Mae'r eiriolaeth hon ar gyfer newid, a arweinir gan ymchwil, wedi helpu i drawsnewid tirwedd y cyfryngau yng Nghymru trwy wella craffu cyhoeddus ar ddarlledu. Fe wnaeth ymchwil a gynhaliwyd ar y cyd gan PDC a'r Sefydliad Materion Cymreig (IWA) lywio sefydliad Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu Senedd Cymru sy'n darparu craffu democrataidd ar bolisi cyfryngau datganoledig. Gan gyflwyno tystiolaeth drylwyr o danfuddsoddiad, arweiniodd y cydweithio hwn, a oedd gydag ymchwil wrth ei hanfod, at gyhoeddi Awdit Cyfryngau IWA (2015) a argymhellodd fwy o adnoddau gan y BBC er mwyn creu rhaglenni yng Nghymru, ac a arweiniodd at fwy o fuddsoddiad ym maes cynhyrchu teledu yng Nghymru gyda'r BBC yn cyhoeddi buddsoddiad ychwanegol o £8.5 miliwn yng Nghymru.

Fe wnaeth ymchwil ac argymhellion PDC hefyd lywio adolygiad Llywodraeth y DU o S4C, y darlledwr cyhoeddus Cymraeg. Arweiniodd hyn at ddiwygio cylch gwaith statudol S4C fel ei fod yn adlewyrchu'r oes ddigidol yn well ac yn gwasanaethu cynulleidfaoedd Cymraeg eu hiaith modern, ledled y DU. Fe wnaeth arbenigedd y Ganolfan mewn systemau cynhyrchu ar gyfer y sgrin helpu i sicrhau buddsoddiad mawr newydd ar gyfer arloesedd yn sector sgrin Cymru. Roedd ein hymchwil a'n cydweithrediadau diwydiannol yn sail i greu Clwstwr i ysgogi ymchwil, datblygiad ac arloesedd mewn diwydiannau sgrin yng Nghymru, y mae'r Athro McElroy yn ei gyd-gyfarwyddo. Mae Clwstwr yn un o ddim ond wyth Clwstwr Creadigol yn y DU a ariennir gan raglen Economi Greadigol AHRC a Llywodraeth Cymru. Mae'n denu £1 miliwn o fuddsoddiad newydd yn flynyddol ar gyfer ymchwil a datblygiad yn niwydiannau sgrin Cymru ac mae wedi cefnogi mwy na 60 o brosiectau ymchwil a datblygiad y diwydiant/AU. Yn olaf, mae ein hymgysylltiad cyhoeddus a chyfryngol wedi gwella dealltwriaeth y cyhoedd o sut mae polisi'n siapio'r hyn a welwn ar y sgrin, tra hefyd yn cynnig cyngor gwybodus, sy’n seiliedig ar ymchwil i hysbysu'r rheoleiddiwr, Ofcom.