Yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014, dyfarnwyd bod 65% o ymchwil y gyfadran yn uned asesu D35 Cerddoriaeth, Drama, Dawns a Chelfyddydau Perfformio (yn cynnwys y cyfryngau ac astudiaethau diwylliannol) a 75% o ymchwil uned asesu D34 Celf a Dylunio (fel rhan o gyflwyniad ar y cyd gyda Sefydliad Celf a Dylunio Cymru, WIRAD – Wales Institute of Art & Design) naill ai’n rhyngwladol ragorol (3*) neu’n arwain yn fyd-eang (4*).
Sefydlwyd y Ganolfan Astudio Cyfryngau a Diwylliant mewn Cenhedloedd Bach (y Ganolfan) yn 2006 er mwyn cydlynu a datblygu diddordebau ymchwil staff academaidd ym meysydd y cyfryngau, diwylliant, cyfathrebu, theatr a pherfformio, gyda llawer ohono yn canolbwyntio ar y diwydiannau creadigol yng Nghymru a’u cyd-destun economaidd, cymdeithasol a gwleidyddol ehangach.
Mae’r Ganolfan yn cefnogi prosiectau ymchwil, yn trefnu cynadleddau a seminarau, yn cyhoeddi cyfres lyfrau benodol, yn cynnal perfformiadau o ddramâu, ffilmiau ac arddangosfeydd, ac yn noddi ymchwil ôlraddedig. Mae wedi sefydlu cysylltiadau ag ymarferwyr y cyfryngau ledled Cymru a’r DU, a chysylltiadau academaidd gyda chydweithwyr yn yr Alban, Gogledd Iwerddon,Catalonia, Gwlad Belg a Seland Newydd, India a’r Unol Daleithiau.
Lleolir y Ganolfan yng Nghyfadran y Diwydiannau Creadigol, ond daw ei haelodau o ystod o feysydd ar draws y Brifysgol, yn adlewyrchu natur rhyngddisgyblaethol ein gwaith. Mae’n gweithio mewn partneriaeth â Sefydliadau Ymchwil y Brifysgol a grwpiau a chanolfannau ymchwil eraill.
Bwriad y Ganolfan ydy cynhyrchu ymchwil o’r safonau uchaf sy’n berthnasol i Gymru a chenhedloedd bach eraill ac yn cael effaith tu hwnt i’r Academi.
Amcanion penodol y Ganolfan ydy:
Wrth weithio tuag at yr amcanion hyn, bydd y Ganolfan yn chwarae rhan weithgar werth gynorthwyo Prifysgol Morgannwg i gyflawni’i chyfeiriad strategol, sef ‘symud yn eu blaen, o fewn y cyd-destun rhyngwladol ehangach, blaenoriaethau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol Cymru’.