Ymchwil Ôl-raddedig

Mewn partneriaeth â grwp ymchwil y Uned Ymchwil y Diwydiannau Creadigol mae’r Ganolfan yn cefnogi ymchwil ôl-raddedig ar gyfryngau a diwylliant yng Nghymru a gwledydd bychain eraill. Rydym wedi darparu ysgoloriaethau ar gyfer ymchwil PhD ac wedi helpu i drefnu cynadleddau ôl-raddedig mewn partneriaeth â Cyfrwng: Cyfnodolyn Cyfryngau Cymru and the Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Bob blwyddyn mae Cyfadran y Diwydiannau Creadigol yn cynnal cynhadledd ôl-raddedig. Dyma gyfle i fyfyrwyr ymchwil siarad am eu prosiect ymchwil mewn amgylchedd cefnogol ac ysgolheigaidd. Fe’i cynlluniwyd i helpu myfyrwyr i ddatblygu eu medrau cyflwyno, gwerthuso eu cynnydd, a chyfrannu at ddatblygiad ysgolheigaidd eu cydweithwyr. Ewch i dudalen gwe’r gynhadledd am fanylion am gynhadledd eleni.

Mae’r Ganolfan hefyd wedi cynnal ymchwilwyr ymweld sydd wedi dod i Gaerdydd i ymestyn eu hymchwil ar gyfryngau a diwylliant Cymru. Gwnaed cysylltiadau gydag ysgolheigion yn Cyprus, Galicia, India a’r Sefydliad Smithsonian yn Washington DC, UDA.



Os oes gennych ddiddordeb mewn ymchwil ôl-raddedig yn y Ganolfan neu ddod i Gaerdydd fel ymchwilydd ymweld, cysylltwch â: [email protected].