Mae’r Grwp Llywio yn cynllunio gwaith a gweithgareddau’r Ganolfan mewn ymgynghoriad â'r aelodaeth ehangach. Mae’n cynnwys aelodau ar draws tair cyfadran y Brifysgol: Cyfadran Y Diwydiannau Creadigol, y Gyfadran Cyfrifiadureg, Peirianneg a Gwyddoniaeth, a’r Gyfadran Gwyddorau Bywyd ac Addysg. Mae yna hefyd ddarpariaeth ar gyfer aelodaeth allanol.
Gwahoddir staff academaidd sydd â diddordeb ymchwil yn y cyfryngau a diwylliant gwledydd bychain i ymuno â'r Ganolfan. Mae’r aelodaeth bresennol yn cynnwys staff o Gyfadrannau Diwydiannau Creadigol, Busnes a Chymdeithas, a Chyfrifiadureg, Peirianneg a Gwyddoniaeth.