Mae’r Ganolfan wedi bod yn rhan o nifer o brosiectau ymchwil cydweithredol a ariennir. Mae ein rhaglen ymchwil helaeth yn canolbwyntio’n bennaf ar faterion sy’n gysylltiedig â'r heriau cyfoes a hanesyddol sy’n wynebu’r diwydiannau creadigol yng Nghymru; sut y gellir cefnogi ymarferwyr a chymunedau creadigol i oresgyn yr heriau hyn; a’r rôl y mae’r diwydiannau creadigol yn ei chwarae wrth gynrychioli’r genedl a’i hunaniaethau diwylliannol amrywiol.
Mae ein hymchwil wedi helpu i lywio dadl gyhoeddus am y diwydiannau creadigol yng Nghymru a’u cyfraniad artistig, cymdeithasol ac economaidd i fywyd dinesig y genedl. Rydym wedi darparu mewnwelediadau newydd ar gyfer sefydliadau a’u defnyddwyr, gan gynnwys BBC Cymru Wales, National Theatre Wales, y Welsh Music Foundation a gorsafoedd radio cymunedol yng Nghymru a Laos.