Hyfforddiant - Diwydiant Sgrin Hygyrch a Chynhwysol

MANYLION Y CWRS

Gyda'n gilydd gallwn greu diwydiant sgrin i bawb.

Mewn partneriaeth â Heloise 'Eli' Beaton, Arweinydd Prosiect gyda’r Prosiect Mynediad at Deledu, rydyn ni’n cynnig 5 o sesiynau hyfforddi ar-lein, 90' o hyd yr un, ar gyfer cyflogwyr a gweithwyr proffesiynol y diwydiant sgrin sydd eisiau gwybod (mwy) am y ffordd rydyn ni’n cysylltu â phobl greadigol anabl, yn eu cyflogi, ac yn eu cefnogi i gyflawni eu gwaith yn wych.

Strwythur yr Hyfforddiant

Rydyn ni’n gwybod mor brysur y mae pawb, felly rydyn ni’n cynnig sesiynau  amser cinio ychydig hirach (1200-1330) ar ddyddiau’r wythnos ym mis Hydref. Mae croeso i chi gofrestru ar gyfer y pump neu'r sesiynau sy'n gweithio i chi neu’r rhai rydych chi’n teimlo bod angen i chi wybod mwy amdanyn nhw.

Mae'n werth nodi hefyd bod POB sesiwn hyfforddi yn dechrau trwy greu sylfaen gadarn o ran deall pam (mae hyn yn bwysig), gan gynnwys:

  • Deddf Cydraddoldeb 2010
  • Pwy sy'n anabl?
  • Model Cymdeithasol Anabledd
  • Iaith

Bydd pob sesiwn amser cinio 90 munud (1200-1330) estynedig yn cynnwys y canlynol:

  1. Dydd Mawrth 8 Hydref 2024
    5A y Prosiect Mynediad at Deledu
    Wedi'i fabwysiadu gan aelodau'r Prosiect Mynediad at Deledu, mae'r 5A yn dempled ar gyfer cynhwysiant. Dysgwch sut i ymgorffori'r 5A yn eich prosesau a’ch cynyrchiadau i gyd.
  2. Dydd Iau 10 Hydref 2024
    Cyfryngau cymdeithasol a Chyfathrebu hygyrch
    Eisiau gwybod pam mae rheolau ‘Camel’ yn bwysig wrth deipio? Sut i sicrhau bod eich postiadau ar y cyfryngau cymdeithasol yn hygyrch i bawb? Dysgwch am ffyrdd ymarferol o wneud eich cyfathrebiadau yn hygyrch.
  3. Dydd Mawrth 15 Hydref 2024
    Addasiadau Rhesymol a Mynediad i Waith
    Ewch i'r afael â'ch cyfrifoldebau cyfreithiol, sut i gael sgyrsiau am addasiadau rhesymol ac yna eu rhoi ar waith.
  4. Dydd Iau 17 Hydref 2024
    Castio cyfranwyr anabl
    Ystyriaethau canfod, cysylltu  a chlyweld, yn ogystal â phethau i’w cofio ar ddiwrnodau saethu  - sut i wneud eich proses castio yn gynhwysol ac annog ymgeiswyr anabl i fod yn rhan o'ch rhaglenni.
  5. Dydd Mercher 23 Hydref 2024
    Gweithio'n gynhwysol – yr ystod o ofynion o ran anableddau a gofynion mynediad
    Taith drwy'r broses recriwtio a chynefino a'r amgylchedd gwaith i wreiddio cynwysoldeb ym mhopeth a wnewch drwy’r amser.

Yn amlwg, byddai'n well gennym eich bod chi'n cofrestru ar gyfer y pump a helpu i greu cymuned o bobl greadigol all newid diwylliant... Ond rydym yn deall yn iawn os mai picio mewn a mas fyddai orau i chi.

MANYLION CYFLENWI

A. SUT MAE’N GWEITHIO

Mae Media Cymru yn darparu cyllid ar gyfer hyd at 30 o leoedd ymhob sesiwn. Bydd lleoedd yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin.

B. PWY ALL WNEUD CAIS?

Mae'r sesiynau hyfforddiant hygyrchedd hyn yn agored i unrhyw gyflogwyr neu weithwyr proffesiynol sy'n gweithio yn niwydiant sgrin Cymru (gan gynnwys Animeiddio, Gemau ac Effeithiau Gweledol).

C. PRYD A BLE?

Mae'r hyfforddiant hygyrchedd hwn 100% ar-lein ac yn digwydd ar y dyddiadau canlynol, am 12:00 tan  13:30 bob tro.

  • Dydd Mawrth 8 Hydref 2024
  • Dydd Iau 10 Hydref 2024
  • Dydd Mawrth 15 Hydref 2024
  • Dydd Iau 17 Hydref 2024
  • Dydd Mercher 23 Hydref 2024

D. MYNEDIAD A HYGYRCHEDD

Os oes gennych unrhyw ofynion penodol a fyddai'n gwneud y cais hwn yn fwy hygyrch i chi (fel cyngor, cymorth ysgrifennu neu gymorth darllen), neu os hoffech y cais hwn mewn fformat arall (fideo neu sain, llais, ffont mawr, testun plaen neu iaith arall), ebostiwch [email protected]

E. UNRHYW GWESTIYNAU?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â [email protected]