Hyfforddiant - Hanfodion Rheoli Data

MANYLION Y CWRS

Gorilla Academy: Hyfforddiant Ôl-gynhyrchu Proffesiynol, Ar gyfer y diwydiant, gan y diwydiant. 

Mae rheoli data’n agwedd allweddol ar bob math o gynhyrchu. Mae’n ymwneud â chasglu, tefnu, storio ac adalw data er mwyn sicrhau prosiect sy’n llwyddo. Nid yn unig y mae rheoli data yn helpu i symleiddio’r broses o greu ffilmiau, ond mae hefyd yn helpu i wella cywirdeb ac effeithlonrwydd.

Wedi magu blynyddoedd o brofiad gyda chymorth un o’r cyfleusterau ôl-gynhyrchu mwyaf yng Nghymru a’r De-orllewin, mae Gorilla Academy wedi gallu nodi a rhestru rhai o’r problemau cyffredin ynghlwm wrth reoli data, a chreu canllaw clir a allai fod o fudd i sector sgrîn Cymru gyda’u llif gwaith syml.

Mae’n bosib nad yw HANFODION RHEOLI DATA yn swnio fel ffordd gyffrous o dreulio 3+ awr o’ch bywyd, ond mae rheoli data’n rôl a chyfrifoldeb pwysig, gan gasglu a trefnu ffilm crai a data arall, sydd yn y bôn, yn rhan greiddiol o’ch prosiect. Os collwch chi’r data, fydd gynnoch chi ddim byd, dim prosiect, dim byd o gwbl – felly mae’n bwysig iawn logio a storio data yn y ffordd gywir er mwyn sicrhau mynediad rhwydd a chyflymder.

Ein huchelgais yw creu dull rheoli data syml ledled y sector sgrîn yng Nghymru, i helpu i wella effeithlonrwydd a chydweithrediad, osgoi nosweithiau di-gwsg, arbed arian a chyflymu’r broses o greu ffilm pan fydd yn cyrraedd y pwynt ôl-gynhyrchu.

Yn ystod y sesiwn 3.5 awr wyneb yn wyneb hon, bydd hyfforddwr arbenigol Gorilla Academy, Paul Hawke-Williams, yn eich helpu i nodi beth sydd angen ichi ei storio, yn ogystal â rhagweld faint o ddata fyddwch chi’n ei greu fesul cynhyrchiad, a chanllaw ar y llif gwaith sy’n cael ei ddefnyddio’n aml. Byddwn hefyd yn rhoi’r wybodaeth hon yn ei chyd-destun ynghyclh y rolau a’r cyfrifoldebau sy’n seiliedig ar ddata a sut i symud ymlaen yn eich gyrfa.

Byddwn yn trafod hanfodion technegol storio ffeiliau, gyriannau caled a pham fod cyflymder yn bwysig, storio hirdymor, paramedrau enwi, gweithio gyda chwmnïau allanol (cwmni ôl-gynhyrchu, dybio ac ati) a ffyrdd rhwydd o symud data y tu allan i’ch cwmni.

Yn olaf, fe edrychwn ni ar arbedion costau, diogelwch a’r agenda werdd sy’n hollbwysig.

Amlinelliad bras o’r cwrs:

  • Beth yw Rheoli’r Cyfryngau – beth mae angen i ni ofalu amdano?
  • Pa dechnoleg oedden ni’n arfer ei defnyddio? Beth yw’r llifoedd gwaith allai fod yn gyfarwydd i chi?
  • Beth rydym yn ei wneud nawr – yr offer a’r cysylltedd
  • Hanfodion trefnu ffeiliau
  • Sut gallwn ni ddod o hyd i’n cynnwys, ei symud, ei rannu a’i alinio
  • Pa faterion diogelwch sydd angen i ni eu cadw mewn cof, a sut mae eu lleddfu?
  • Faint yw pris cadw cymaint o ddata? Oes modd ei gadw’n lleol, neu ar y Cwmwl? Manteision ac anfanteision?
  • Gofynion storio byrdymor a hirdymor
  • Oes modd ei wneud yn wyrddach?

Felly dewch i ymuno â ni ar gyfer y cyfle hyfforddiant unigryw hwn i ddysgu gwir werth rheoli data da, gyda Gorilla Academy, un o gyfleusterau ôl-gynhyrchu mwyaf y DU. 

MANYLION CYFLENWI

A. SUT MAE’N GWEITHIO

Ariennir y rhaglen gan Media Cymru ar y cyd â Gorilla Academy (rhan o Gorilla Group). 

Y dyddiad cau ar gyfer ymgeisio yw 23:59 6 Mai 2024.  Rydyn ni’n cadw'r hawl i gau'r broses ymgeisio yn gynnar, os daw mwy o geisiadau dilys na’r 25 lle sydd ar gael.

B. PWY ALL WNEUD CAIS?

Mae’r gweithdy rhyngweithiol ac wyneb yn wyneb hwn, fydd yn para 3.5 awr, ar agor i unrhyw weithiwr proffesiynol yn y sector sgrîn yng Nghymru neu sy’n byw yng Nghymru, sy’n ymdrin â data wrth eu gwaith. Nid yw’n sesiwn bwrpasol ar hyfforddiant technegol (ond bydd ychydig). Yn hytrach, mae’n gyfle uwchsgilio i unrhyw un sydd ar y rheng flaen o ran rheoli data, i ddysgu’r ffordd orau i drefnu eich ffeiliau i sicrhau llwyddiant y prosiect i’r dyfodol.

O safbwynt cynhyrchu, byddwn yn edrych ar sut gallwch sicrhau bod eich cynnwys yn ddiogel, yn hygyrch a bod modd dod o hyd iddo’n gyflym, waeth os byddwc chi yn yr adeilad neu’n gweithio o bell. Felly, bydd yn ddefnyddiol i gwmnïau annibynnol a llai hefyd.

Cynhyrchwyr, cynorthwywyr cynhyrchu, rheolwyr prosiectau, cynorthwywyr/hyfforddeion camera, camera, cynorthwywyr golygu, bydd y trosolwg yn trafod pob math o ffeil, felly bydd o fudd i bob math o swydd.

Dim ond 12 o leoedd sydd ar gael ym mhob sesiwn (ym mhob lleoliad) a bydd y lleoedd yn cael eu dyrannu ar sail Y CYNTAF I’R FELIN.

  • Bydd y broses ymgeisio ar agor nes byddwn yn llenwi pob sesiwn.
  • Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael gwybod o leiaf pythefnos cyn dechrau’r hyfforddiant.

C. PRYD A BLE?

Gofynnwn i chi sicrhau y gallwch ymrwymo i un o’r dyddiadau hyfforddiant canlynol:

  • Dydd Llun 22 Gorffennaf 2024, 1300-1700, Caerdydd
    Gloworks, Heol Porth Teigr, CF10 4GA
  • Dydd Mawrth 23 Gorffennaf, 1300-1700, Caerfyddin
    Yr Egin, Heol y Coleg, SA31 3EG
  • Dydd Llun 29 Gorffennaf, 1300-1700, Aberystwyth
    Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Ceredigion, SY23 3BU
  • Dydd Mawrth 30 Gorffennaf, 1300-1700, Bangor
    Storiel, Ffordd Gwynedd, Gwynedd, LL57 1DT

D. MYNEDIAD A HYGYRCHEDD

Os oes gennych unrhyw ofynion penodol a fyddai'n gwneud y cais hwn yn fwy hygyrch i chi (fel cyngor, cymorth ysgrifennu neu gymorth darllen), neu os hoffech y cais hwn mewn fformat arall (fideo neu sain, llais, ffont mawr, testun plaen neu iaith arall), ebostiwch [email protected]

E. UNRHYW GWESTIYNAU?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â [email protected]