Uwchgynhadledd Dyfodol Hygyrch

Ddydd Mawrth 10 Medi, mae Media Cymru a Phrifysgol De Cymru yn cynnal yr Uwchgynhadledd Dyfodol Hygyrch gyntaf.
Yn cael ei gynnal yn y Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Heol y Gogledd, Caerdydd, CF10 3ER

Gydag 1 o bob 4 o boblogaeth Cymru bellach yn nodi eu bod yn anabl, a llai nag 8% o gynrychiolaeth pobl Fyddar, Anabl, a Niwroamrywiol (DDN) ar y sgrin ac oddi ar y sgrin, ni fu erioed amser pwysicach i siarad am hygyrchedd yn ein sector.

Nod yr uwchgynhadledd yw bod pawb yn gadael yn fwy hyerus o ran anabledd, gyda gwell dealltwriaeth o sut i gyflogi, cynnwys, hyfforddi a chefnogi talent DDN, ac yn gallu adnabod adnoddau a chyllid i sicrhau cynyrchiadau mwy hygyrch.

Bydd gweithwyr proffesiynol y diwydiant sgrin yn dod at ei gilydd i drafod hygyrchedd, cynhwysiant, a chynrychiolaeth ym mhob agwedd ar gynhyrchu sgrin ac archwilio arfer gorau, y tu hwnt i’r pethau sylfaenol yn unig.

Bydd arweinwyr diwydiant, gan gynnwys pobl greadigol anabl, yn rhannu gwybodaeth a phrofiad, gan roi’r offer i gyfranogwyr godi hygyrchedd ac agor llwybrau i gynhwysiant dyfnach, gan harneisio’r creadigrwydd a’r buddion eraill a ddaw o brofiadau bywyd.

Mae'r Uwchgynhadledd ar gyfer:

  • Cyflogwyr a gweithwyr proffesiynol y diwydiant sgrin.
  • Sefydliadau anabledd a chelfyddydol.

Amserlen y Digwyddiad

09:30 Cofrestru
10:00 Croeso gan ein cyflwynydd Jake Sawyers a dangosiad ffilm 'Talent Showcase'
10:15 Cyweirnod: BYWYD GWIRIONEDDOL
Mae tri pherson creadigol anabl yn myfyrio ar eu profiadau diweddar, gan awgrymu llwybrau at ddyfodol tecach a mwy hygyrch.
Kaite O'Reilly, Andria Doherty a Sara Beer
10:40 Panel: MAES O OBAITH
Ymdrechion tîm Gemau Paralympaidd Caerdydd ar sut i wneud y cynhyrchiad byd-eang yma yn fwy hygyrch.
Joe Towns, Liz Johnson, Carys Owens, Giles Long, Omar Hagomer, James Ledger
11:25 Egwyl a lluniaeth
11:50 Canfyddiadau adroddiad Cyflymydd Cynhwysiant, gyda Gritty Talent
Reema Lorford
12:00 Panel: CHWILIO AM WAITH SGRIN
Mynediad a Llwyddiant: Sut i ddod o hyd i, recriwtio a chynnwys talent Byddar, Anabl a Niwroamrywiol (BAN) yn ein cynyrchiadau a straeon.
Reema Lorford, Heloise Beaton, Caroline O’Neill, Laurence Clark, Rosie Higgins
12:45 Y GWIR YN ERBYN Y SGRIN
Cythrudd am actorion Byddar, Anabl a Niwroamrywiol (BAN) yn colli allan ar rolau Teledu a Ffilm yng Nghymru er gwaethaf llawer o weithgarwch cynhyrchu lleol.
Adam Knopf, Meg Bradley
13:05 Cinio a Stondinau Arddangoswyr
14:15 Dosbarthiadau-MEISTR (Cynrychiolwyr yn cofrestru ar gyfer 1 o 3 opsiwn)
1. Mynediad at Waith ac Addasiadau Rhesymol (Disability Arts Online)
Gweithdy gyda’r nod o gefnogi ein sector sgrin i ddeall a defnyddio Mynediad at Waith yn well ac archwilio pa addasiadau rhesymol y dylid eu rhoi ar waith i alluogi pobl anabl i ffynnu yn y diwydiannau creadigol yng Nghymru. 
Trish Wheatley & Cathy Waller
 
2. Hunaniaethau yn Gorgyffwrdd ac Iaith Gynhwysol (Diverse Cymru)
Cyflwyniad i beth yw croestoriadedd, pam ei fod yn bwysig, a sut i weithredu a chyfathrebu mewn ffyrdd sy'n croesawu gweithleoedd mwy amrywiol a chynhwysol. 
Ele Hicks
 
3. Gweithio gyda Chydlynwyr Mynediad (Brazen Productions/TripleC) 
Sesiwn ryngweithiol craff yn archwilio’r berthynas waith rhwng cast/cyfrannwr, criw a Chydlynydd Mynediad a’r effaith y gall y rôl ddatblygol hon ei chael ar eich cynhyrchiad.
Jules Hussey & Jess Mabel Jones
15:15 Egwyl a lluniaeth
15:40 Panel: GOBAITH NEWYDD
Prosiectau chwyldroadol ac arferion gwaith sy'n digwydd yng Nghymru, gan ddangos sut y gall hygyrchedd creu cynnwys fynd law yn llaw.
Ryan Chappell, Cai Morgan, Mared Jarman, Steve Swindon, Rhys Miles Thomas, Paul Burke
16:30 Panel: DOCTOR WHO YN ARWAIN Y GAD
Darganfyddwch sut mae Doctor Who yn agosáu at hygyrchedd ar set ac ar y sgrin.
Jake Sawyers and Jess Gardner, Phil Sims
17:00 SYLWADAU I GLOI
17:20 Lluniaeth, rhwydweithio a stondinau
19:00 DIWEDD

Mae’r digwyddiad hwn wedi derbyn cyllid a chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol.

Noddwyr y digwyddiad: S4C a TAC

Noddwr llety a phartner: Access Bookings