Cynhwyswch fi! - Cyfrifiad Sgrin

Gweminar gyda Bwrdd Cynghori Cyfrifiad 2020 ac ymchwilwyr.

Beth yw'r sesiwn hon?

Hoffem eich gwahodd i gymryd rhan mewn sesiwn gyda’r Bwrdd Cynghori ‘Sgiliau mewn Arloesi’ i ddysgu mwy am y Cyfrifiad Diwydiant Sgrin 2020 a chlywed mwy am werth cymryd rhan a chael eich cyfrif.

Yn ymuno â Pauline Burt, Prif Weithredwr Ffilm Cymru Wales, Tom Ware, Cyfarwyddwr Cynhyrchu a Pherfformio yn PDC, ac Allison Dowzell, Rheolwr Gyfarwyddwr, Screen Alliance Wales, bydd Faye Hannah, Cymrawd Ymchwil ym Mhrifysgol De Cymru.

Bydd y sesiwn hon yn cynnig i’r rhai sy'n cymryd rhan:

  • Cipolwg ar y math o ymchwil a gyflwynir ar gyfer sgiliau, hyfforddiant a datblygu'r gweithlu yn CCR.
  • Rhannu sut y bydd gwahanol elfennau o'r ymchwil yn gweithio a'r hyn yr ydym yn bwriadu ei gyflawni rhwng nawr a Hydref 2020.
  • Sut y bydd cael y data a'r dystiolaeth hon yn cefnogi'r sector Sgrin a darparwyr hyfforddiant ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR) yn effeithiol.
  • Cyfle i'r diwydiant ofyn cwestiynau yn ymwneud â Chyfrifiad Sgrin 2020 i'r Bwrdd Cynghori a'r ymchwilydd arweiniol.

Byddwn yn derbyn cwestiynau ymlaen llaw ar gyfer y sesiwn hon felly e-bostiwch gwestiynau i [email protected]

Byddwn yn recordio'r sesiwn hon ac yn sicrhau ei bod ar gael ar-lein ar ôl y digwyddiad.

Sut mae cofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn?

Cofrestrwch trwy Eventbrite a byddwn yn e-bostio dolen i'r sesiwn gweminar atoch.

Beth yw’r Cyfrifiad Diwydiant Sgrin 2020?

Mae’r Cyfrifiad Sgrin 2020 yn brosiect ymchwil Clwstwr a arweinir gan Brifysgol De Cymru ac a ariennir gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau. Dyma'r cyfrifiad llawn cyntaf o ddarpariaeth cynhyrchu a hyfforddiant diwydiannau sgrin ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR).

Wedi'i gynnal gan Faye Hannah ym Mhrifysgol De Cymru, mae'r ymchwil hon yn canolbwyntio ar ffilm, teledu pen ucha’r farchnad, teledu, gemau, animeiddio, VFX ac ôl-gynhyrchu a bydd yn cynhyrchu data manwl ar ddemograffeg a sgiliau'r diwydiant gyda ffocws ar dwf ac arloesi.

Ble alla i ddod o hyd i’r Cyfrifiad Sgrin 2020?

Mae'r ddau arolwg Cyfrifiad 2020 yn fyw yma wedi'u hanelu at ddarparwyr diwydiant a hyfforddiant a byddant ar agor tan 1 Gorffennaf.

  • Anelir y cyntaf at ddarpariaeth hyfforddiant ôl-16 y diwydiannau sgrin - CLICIWCH YMA.
  • Anelir yr ail at y sector cynhyrchu i fapio sefydliadau a gweithwyr llawrydd - CLICIWCH YMA.

I ddarllen trwy'r Cwestiynau Cyffredin (FAQs) ar gyfer darparwyr Diwydiant a hyfforddiant, cliciwch YMA.

Darllenwch ein BLOG Cyfrifiad 2020 ar y Ganolfan Cyfryngau a Diwylliant mewn Cenhedloedd Bach YMA.

Dilynwch ni ar Trydar @ScreenCensus

E-bost: [email protected]