Cynhadledd Ar-lein Gwleidyddiaeth Castio yn y Cyfryngau

Mae’r gynhadledd Gwleidyddiaeth Castio yn y Cyfryngau yn ddigwyddiad deuddydd sy’n rhad ac am ddim a gynhelir gan Gyfadran y Diwydiannau Creadigol ym Mhrifysgol De Cymru. Nod y digwyddiad rhyngddisgyblaethol hwn yw taflu goleuni ar gastio yn y cyfryngau fel arfer myrdd ac amlochrog, a chael dealltwriaeth feirniadol ddyfnach ohono. Mae'r gynhadledd yn olrhain hanes castio o bob cwr o'r byd ac yn mynd i'r afael â dadleuon allweddol cyfredol y mae castio yn y cyfryngau yn eu hwynebu heddiw, gan archwilio systemau castio a hunaniaeth y castiau hynny, neu a ymyleiddiwyd, ar draws y cyfryngau yn ymwneud â rhyw, hil, rhywioldeb, dosbarth, oedran, anabledd, a/neu genedligrwydd.

Fel digwyddiad ar-lein rydym yn falch iawn o gael ystod o gynrychiolwyr a mynychwyr rhyngwladol, gan ychwanegu dyfnder pellach at yr astudiaeth o gastio yn y cyfryngau trwy gwmpasu amryw bynciau eang gan gynnwys cynrychioliadau cyfryngau, prosesau castio o fewn cenedligrwydd penodol, dadleuon ynghylch amrywiaeth a chynhwysiant, rôl enwogion, ac ymgysylltiad y gynulleidfa â chastio. Rydym hefyd yn hynod falch o gael ysgolheigion o fri rhyngwladol, Dr Kristen J. Warner (Prifysgol Alabama) a Dr Shelley Cobb (Prifysgol Southampton) fel prif siaradwyr ein digwyddiad. Wrth wneud hynny, ein nod yw cefnogi sgyrsiau a pherthnasoedd ystyrlon rhwng y byd academaidd, diwydiant a chyrff allanol ehangach sy'n effeithio ar wybodaeth ysgolheigaidd a diwylliannau cynhyrchu o fewn y diwydiannau creadigol.

Un o nodau craidd y digwyddiad yw adeiladu pontydd rhwng y byd academaidd a diwydiant. Gyda hyn, rydym wrth ein bodd fod Hijinx (y cwmni theatr proffesiynol a chyfryngau sgrin o Gaerdydd sy'n cynhyrchu a hyrwyddo cyfleoedd i actorion ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth), Justin Melluish, actor Hijinx (sy'n serennu yn y gyfres Craith ar S4C ar hyn o bryd), Severn Screen (cynhyrchwyr Craith ar gyfer S4C a Hidden ar gyfer y BBC) yn cau'r gynhadledd gyda bord gron y diwydiant. Fel rhan o Glwstwr, bydd y ford gron yn archwilio rhai o'r newidiadau ymarferol y gellir eu rhoi ar waith yn y byd go iawn i wneud diwylliannau castio a chynhyrchu yn fwy amrywiol a chynhwysol.

I gofrestru ar gyfer y digwyddiad dilynwch y ddolen: https://www.eventbrite.co.uk/e/the-politics-of-casting-in-media-online-conference-tickets-191619447927 


clwstwr.png hijinx.png Severn_logo.png