13-03-2019 am 3.15pm i 4.15pm
Lleoliad: University of South Wales, Cardiff Campus, The ATRiuM (Theatre), 86-88 Adam Street , Cardiff, CF24 2FN.
Cynulleidfa: Public
Yn y seminar byddaf yn adlewyrchu ar fy mhroses fel dramodydd o ddatblygu testun ar gyfer ei berfformio wedi ei 'sbarduno gan lythyrau taid fy ngŵr o ffosydd y Rhyfel Mawr. Byddaf hefyd yn adlewyrchu ar fy mhroses fel cyfarwyddwr o geisio gwneud penderfyniadau am drywydd y gwaith a'r cyfrifoldebau ynghlwm a hynny yng nghyd destun theatr cyfrwng Cymraeg cyfredol. Cafodd Y Pethau Mud ei gefnogi yn wreiddiol ond nid ei gynhyrchu gan Theatr Genedlaethol Cymru. Datblygwyd y drafft cyflawn cyntaf a'i ddarllen yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018 yn yr Atriwm, Prifysgol De Cymru, ac eto yn yr un gofod ar yr 11eg o Dachwedd, Dydd y Cadoediad, 2018 gan y darlithwyr ac ymarferwyr theatr Matthew Davies, Sian Summers, Dr Rhiannon Williams a'r actor a chyfarwyddwr Rhys ap Trefor. Daethom at ein gilydd eto ym mis Ionawr 2019 gyda chymorth Cyngor Celfyddydau Cymru am gyfnod o ddatblygu pellach mewn safle penodol, sef Neuadd Goffa Tredelerch. Byddaf yn adlewyrchu ar ein hymdrechion i ddod i gytundeb am y defnydd gorau o'r testun a thrwy hynny drywydd cynhyrchiad arfaethedig unai fel cynhyrchiad prif lwyfan teithiol, cynhyrchiad safle penodol (ond generig) neu brosiect theatr hirdymor gymunedol.
Mae Dr Sera Williams yn Uwch Ddarlithydd ac yn Arweinydd cwrs BA (Anrh) Theatr a Drama ym Mhrifysgol De Cymru. Mae wedi gweithio fel perfformwraig gyda sawl cwmni theatr gan gynnwys nifer o brosiectau dros gyfnod o ddeng mlynedd gyda chwmni Brith Gof. Mae wedi ysgrifennu ar gyfer y theatr a theledu, a chynhyrchwyd 25 o’i dramâu yn broffesiynol.
Trefnwyd y seminar ymchwil hwn ar y cyd rhwng Cangen De Cymru’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Chanolfan Astudio Cyfryngau a Diwylliant mewn Cenhedloedd Bach.
In this seminar, I will reflect on my process as a playwright of developing a text for performance inspired by letters written by my husband's grandfather from the trenches of the First World War. I will also reflect on my process as a director of trying to make decisions about the direction of the work, and the responsibilities involved with that in the context of contemporary Welsh-medium theatre. Y Pethau Mud was originally supported, although not produced, by Theatr Genedlaethol Cymru. A completed first draft was developed and read at the Atrium, USW, during the 2018 the National Eisteddfod and on Armistice Day November 11th 2018, by lecturers and theatre practitioners Matthew Davies, Sian Summers, Dr Rhiannon Williams and the actor and director Rhys ap Trefor. We reassembled in January 2019 with the support of the Arts Council of Wales for a period of further development at Rumney Memorial Hall. I will reflect on our efforts to reach an agreement on the best use of the text and subsequently on the direction of the proposed production as either a main stage touring production, a site-specific (though generic) production, or a long-term community theatre project.
Dr Sera Williams is Senior Lecturer and Course leader for BA (Hons) Theatr a Drama at USW. She has worked as a performer with many theatre companies, including numerous projects over a 10-year period with Brith Gof company. She has written for theatre and TV, and 25 of her plays have been professionally produced.
This research seminar is a collaboration between the University of South Wales Branch of the Coleg Cymraeg Cenedlaethol and the Centre for Media and Culture in Small Nations.