Mi fydd Aneirin Karadog yn trafod ei gwestiwn ymchwil, sy’n edrych ar y berthynas rhwng y bardd, ei gyfrwng, sef pa fath o gerdd mae’n ei chreu,; a’i gynulleidfa, sydd heddiw yn gallu golygu cynulleidfaoedd o bob math: o ddarllenwyr cyfrolau barddoniaeth, i gynulleidfa fyw mewn talwrn neu stomp. Yn y pen draw, ceisia Aneirin ganfod a oes y ffasiwn beth â cherdd berffaith, a all drosgynnu’r holl gyfryngau a chynulleidfaoedd. Bydd yn cynnig seminar rhyngweithiol o gyflwyniad o’i ymchwil a pherfformiadau o gerddi mewn gwahanol arddulliau.
Mae Aneirin Karadog yn fyfyriwr ymchwil PhD gydag Adran Gymraeg Prifysgol Abertawe, Academi Hywel Teifi. Mae’n fardd a ddarlledwr llawrydd ac wedi cyhoeddi dwy gyfrol o’i farddoniaeth, sef 'O Annwn i Geltia’ a 'Bylchau’. Bu’n fardd Plant Cymru rhwng 2013-15 ac yn Eisteddfod Genedlaethol y Fenni enillodd Y Gadair gyda dilyniant o gerddi ar y testun 'Ffiniau’.
Aneirin Karadog will be discussing his research question, which looks at the relationship between the poet, his medium, which is the type of poem he is composing,; and his audience, which today can mean audiences of all kinds: readers of poetry collections, to the live audience of the talwrn or stomp. Aneirin will endeavour to discover if there is such a thing as the perfect poem, which can transcend all mediums and audiences. He will be giving an interactive seminar including an introduction to his research and performances of poems in different styles.
Aneirin Karadog is a PhD student with the Welsh Department at the University of Swansea, Academi Hywel Teifi. He is a poet and freelance broadcaster, and has published two volumes of his poetry: ‘O Annwn i Geltia’ and 'Bylchau’. He was the Children’s Poet of Wales between 2013-15, and in this year’s National Eisteddfod in Abergavenny, he won The Chair for his sequence of poems on the theme ‘ffiniau’ (borders/boundaries).