Nawr yw’r amser ar gyfer cynllun gweithredu sgiliau i wasanaethau Cymru gyfan, medd adroddiad

Screen survey wales cym.png

Mae angen buddsoddi mewn sgiliau a hyfforddiant ar gyfer sector ffilm a theledu cynaliadwy ar draws Cymru gyfan – nid dim ond canolbwyntio ar Brifddinas-Ranbarth Caerdydd – fel y gall newid trawsnewidiol adeiladu gweithlu cynhwysol.

Mae hynny yn ôl Arolwg Sgrin Cymru – adroddiad gan Brifysgol De Cymru (PDC) ar y cyd â Cymru Greadigol, asiantaeth Llywodraeth Cymru a sefydlwyd i ysgogi twf ar draws y diwydiannau creadigol.

Mae’r adroddiad, a gyhoeddwyd heddiw (9 Chwefror), yn gwneud cyfres o argymhellion i fynd i’r afael â bylchau sgiliau ac anghenion hyfforddi’r sector sgrin, gan daflu goleuni ar y newidiadau a welwyd yn ystod pandemig COVID-19 ar ardaloedd o Gymru y tu allan i Brifddinas-Ranbarth Caerdydd. (CCR).

Mae’r argymhellion yn cynnwys:

  • Cynllun gweithredu ar gyfer hyfforddiant sgiliau a’r gweithlu sy’n ymestyn y tu hwnt i ymatebion tymor byr i argyfyngau uniongyrchol, ac sy’n edrych ar gynllunio a buddsoddi tymor hwy
  • Blaenoriaethu cymorth i ficro-glystyrau rhanbarthol o ran cadw talent a datblygu sgiliau yn y dyfodol, er mwyn gwella amrywiaeth a chyfleoedd creadigol ar draws y sector
  • Cronfa deithio i gefnogi cyfleoedd hyfforddi i newydd ddyfodiaid gael mynediad i leoliadau ffilmio yn ystod oriau anghymdeithasol, gan wella’r siawns o gyflogaeth fedrus mewn ardaloedd gwledig a lled-drefol
  • Camau gweithredu i gefnogi partneriaethau strwythurol, tymor canolig rhwng Addysg Uwch, Addysg Bellach a darparwyr hyfforddiant a chwmnïau cynhyrchu eraill

Arweiniwyd y tîm ymchwil gan yr Athro Ruth McElroy, Pennaeth Ymchwil yn y Gyfadran Diwydiannau Creadigol ym Mhrifysgol De Cymru a Chyd-gyfarwyddwr Clwstwr, y ganolfan greadigol genedlaethol sy’n anelu at dyfu arloesedd yn y diwydiannau creadigol. Ymunodd y canlynol â’r Athro McElroy - Dr Helen Davies, Cymrawd Ymchwil yn PDC ac ymarferydd profiadol ymchwil academaidd a’r cyfryngau gyda dros 10 mlynedd yn gweithio yn y sector sgrin; Tom Ware, Cyfarwyddwr Cynhyrchu a Pherfformio ym Mhrifysgol De Cymru a dau intern graddedig, Phoebe Lacey-Freeman a Megan Franzen fel cynorthwywyr ymchwil.

Dangosodd eu hymchwil mai dim ond 40.7% o gwmnïau a arolygwyd oedd yn cydweithio neu’n gweithio gyda phrentisiaethau, darparwyr Addysg Uwch neu Addysg Bellach, gyda dim ond 37% o gwmnïau’n cydweithio â darparwyr hyfforddiant eraill.

Canfu’r adroddiad hefyd fod mwyafrif llethol y sector yn BBaCh, gyda 59% o’r cwmnïau a arolygwyd yn cyflogi llai na phedwar aelod o staff. Rhestrwyd dulliau recriwtio anffurfiol, megis ar lafar, fel y brif ffordd i 77% o gwmnïau ddod o hyd i weithwyr.

Dywedodd yr Athro Ruth McElroy: “Nid yw’r sector sgrin yng Nghymru wedi’i gyfyngu i Brifddinas-Ranbarth Caerdydd yn unig. Mae Arolwg Sgrin Cymru yn darparu sylfaen dystiolaeth i ddatblygu a chyflwyno cynllun gweithredu ar gyfer sgiliau sgrin ledled Cymru; darparu ciplun o’r sector cynhyrchu ffilm a theledu yn y meysydd hynny sy’n llai tebygol o gael sylw beirniadol na’r clwstwr CCR mwy proffil uchel.

“Gall clystyrau rhanbarthol – fel y rhai yng ngogledd a gorllewin Cymru – fod yn llai o ran maint, ond mae eu heffaith ranbarthol yn sylweddol iawn. Gallant helpu i ysgogi gwelliannau mewn gwaith teg, gwell cyfleoedd gwaith a dosbarthiad tecach o arian cyhoeddus i alluogi dysgwyr, gweithwyr a busnesau dawnus i ffynnu ble bynnag y maent wedi’u lleoli. Yn ddiwylliannol, mae’n bosibl y bydd crynhoad y sector cynhyrchu sgrin yn y CCR yn ystumio pŵer dychmygus ffilm a theledu i adrodd storïau sy’n adlewyrchu amrywiaeth pobl Cymru.

“Mae pandemig COVID-19, ynghyd â thwf sector sgrin Cymru, yn golygu mai 2022 yw’r amser i roi cynllun gweithredu sy’n cael ei ysgogi gan werthoedd cyfiawnder cymdeithasol, twf busnes cynaliadwy, a chynhwysiant gwirioneddol i bob dawn greadigol lle bynnag y mae’n preswylio. Nawr yw’r amser.”

Dywedodd Gerwyn Evans, Dirprwy Gyfarwyddwr o Cymru Greadigol: “Rydym yn falch o fod wedi cefnogi Prifysgol De Cymru i gyflwyno'r adroddiad hwn.

“Bydd y canfyddiadau a'r argymhellion sydd wedi deillio o'r ymchwil hon, ynghyd â chanfyddiadau adroddiad 'ScreenWorks 2020' y Brifysgol, yn helpu i lywio blaenoriaethau strategol Cymru Greadigol o ran buddsoddi mewn sgiliau sgrin, a bydd hefyd yn sail i gynllun gweithredu sgiliau ar gyfer y tair blynedd nesaf, a fydd yn cael ei lansio yn ystod y misoedd nesaf.”

--> Lawrlwythwch yr Adroddiad


#cenhedloeddbach