12-10-2023
Mae'r artist a'r awdur Fern Thomas newydd ddechrau PhD Partneriaeth Ddoethurol Gydweithredol AHRC ym Mhrifysgol De Cymru ac Amgueddfa Cymru, a hynny’n PhD drwy ymarfer. Bydd ei hymchwil yn archwilio 'Perfformio Cynhanes - cynyddu ystyr casgliadau archaeoleg ar gyfer cynulleidfaoedd amrywiol yr amgueddfa'.
Rwyf wedi bod yn gweithio fel artist am yr ugain mlynedd diwethaf. Fe wnes i fy ngradd Meistr mewn Cerflunio Cymdeithasol ddeng mlynedd yn ôl, maes o greadigrwydd trawsddisgyblaethol sy'n canolbwyntio ar lunio cymdeithas drugarog ac ecolegol dichonadwy. Yn fwy diweddar mae fy ngwaith wedi dechrau archwilio'r groesffordd rhwng treftadaeth ac ecoleg, gan chwilio am ddealltwriaeth hynafol o’r byd neu gredoau ac arferion sy'n seiliedig ar le, fel ffordd o ddeall beth yw bod yn ddynol mewn cyfnod o argyfwng ecolegol.
Rwyf wedi bod yn ymchwilio i ddefod a seremoni yn fy ngwaith ers amser maith a bydd gweithio gyda chasgliad yr Oes Haearn yn Sain Ffagan yn galluogi dyfnder newydd i’r ymholiad i ddefod a chred. Mae gen i ddiddordeb hefyd yn yr amgueddfa fel gofod dinesig a sut y dylai'r casgliadau sydd gan amgueddfa a'r gwaith y mae'n ei wneud fod ar gael i bob math o gynulleidfaoedd.
Rydw i wedi bod eisiau astudio ar gyfer PhD ers amser maith a phan welais y cyfle i weithio gyda PDC ac Amgueddfa Cymru, roedd yn gwneud cymaint o synnwyr i ble rydw i yn fy ymarfer a fy meysydd ymchwil. Mae cael fy lleoli yn y Gyfadran Busnes a Diwydiannau Creadigol yn golygu bod gennyf fynediad at yr ymchwil anhygoel sy'n digwydd mewn perfformiad, adrodd straeon, a cherddoriaeth ymhlith eraill, ac y mae pob un ohonynt o ddiddordeb i'm gwaith fy hun.
Mae Partneriaeth Ddoethurol Gydweithredol yr AHRC yn fath arbennig iawn o gydweithrediad rhwng gwahanol sefydliadau, ac mae fy nhîm goruchwylio yn cynnwys staff o PDC a staff o'r amgueddfa.
Rwy'n edrych ymlaen yn arbennig at dreulio amser gyda'r casgliadau archeolegol a dod o hyd i ffyrdd newydd o ymgysylltu eraill ag agwedd o'n hanes. Rwy'n ffan mawr o lyfrgelloedd ac roeddwn yn hapus i gymryd fy llyfrau cyntaf allan ar fy niwrnod cyntaf er mwyn i mi allu dechrau darllen! Rwyf hefyd yn mwynhau bod yn rhan o gymuned academaidd ac yn edrych ymlaen at ddysgu am ymchwil fy nghyfoedion a chael y cyfle i ddysgu ochr yn ochr â'n gilydd.
Fel dysgwr Cymraeg rwy'n hapus i gael y cyfle i ddatblygu fy nealltwriaeth o'r iaith drwy gyrsiau dwys a thrwy ymgysylltu ag eraill yn Gymraeg er mwyn i mi gynnig perfformiadau, gweithdai a chyfarfyddiadau'n ddwyieithog i wahanol gynulleidfaoedd. Rwy'n edrych ymlaen yn arbennig at ddysgu ambell air archeolegol newydd yn y Gymraeg!
Goruchwylir Fern gan yr Athro Lisa Lewis (PDC) a Dr Steve Burrow (Amgueddfa Cymru), ynghyd â Dr Sera Moore Williams (PDC), gyda Rhiannon Thomas (Amgueddfa Cymru) fel ymgynghorydd arbennig. Os oes gennych ddiddordeb mewn ymgymryd ag astudiaeth PhD ar thema benodol o dan y Ganolfan Cyfryngau a Diwylliant mewn Cenhedloedd Bach, cysylltwch â’r Athro Lisa Lewis, os gwelwch yn dda: [email protected]
12-10-2023
12-10-2023
22-02-2023
22-02-2023
19-10-2022
19-10-2022
01-04-2022
01-04-2022
28-02-2022