Gadael un golau ynghyn

800px-Dow_Centennial_Centre_Shell_Theatre_Audience_Right.jpg

Peth hynod a thu hwnt o deimladwy yw gweld ar twitter y lluniau o lwyfannau gwag, gydag un golau ynghyn yn y tywyllwch. Dyma’r ‘ghostlight’, y golau a adewir yn y tywyllwch tra bo’r theatr ar gau, a than tro nesa’. Yn ofergoel ac yn amddiffyniad rhag unrhyw anffawd corfforol yn y tywyllwch, mae gadael y golau ynghyn i lenwi’r gwacter yn ein hatgoffa o arwyddocâd y llefydd hyn i’r dychymyg cymunedol a chenedlaethol. Ond tra bod y theatrau’n cau yn gorfforol, bu rhai yn defnyddio dulliau eraill o ddod â phobl ynghyd.

Anodd sgwennu blog ar effeithiau Cofid-19 ar ein theatrau yng Nghymru. Mae’n brifo’n enbyd gyda theatrau ar gau a’r gymuned gorfforol ar wasgar. Gweithred dorfol yw theatr yn ei hanfod, ac un sy’n cynnal cymundod. Yr effaith fwyaf uniongyrchol yw’r golled i’r llu o weithwyr llawrydd sy’n creu’r weithred dorfol hon i gynulleidfaoedd nos ar ôl nos. Yng Nghymru, bu’n rhaid i Theatr Genedlaethol Cymru dalfyru diwedd taith Tylwyth Daf James, cyd-gynhyrchiad gyda’r Sherman, a bu’n rhaid canslo taith hir ddisgwyliedig Pryd Mae’r Haf? (prosiect gyda Criw Brwd, Theatr Soar a The Other Room). Canslwyd Hail Cremation! Jon Tregenna i National Theatre Wales; tynnwyd taith Chwarae Theatr Iolo pan oedd ar ei hanner; canslwyd taith Bara Caws o Draenen Ddu; canslwyd taith Theatr Clwyd o Milky Peaks gan Seriol Davies. Ers i adeiladau theatrau gau yn llwyr ar yr 20fed o Fawrth rhoddwyd gwasgedd ar y Trysorydd gan undebau’r diwydiant, BECTU ac Equity, i adolygu ei gynlluniau ariannol er lles sector llawrydd y diwydiannau creadigol. Heb gynhaliaeth o’r fath byddai cyfran fawr o’r gweithlu llawrydd a hunan-gyflogedig yn wynebu methdaliadau o fewn blwyddyn. Cafwyd ymateb cryf oddi wrth aelodau’r diwydiant; llofnodwyd y ddeiseb i amddiffyn gweithwyr y diwydiannau creadigol gan actorion blaenllaw, ac erbyn y 24ain o Fawrth roedd BECTU yn annog theatrau i gymryd mantais o gynnig Llywodraeth Prydain i dalu 80% o gyflogau staff.

Fel sawl un yn y sector, rydym yn edrych ymlaen at weld beth fydd y Canghellor yn cynnig i weithwyr llawrhydd yn hwyrach heddiw. Tybed a fydd yn agos i’r hyn a drefnwyd gan Senedd Berlin - €100 miliwn mewn grantiau o €5,000 i weithwyr llawrydd a busnesau bach yn y sector diwylliannol, ymysg sawl cynllun arall. Yng Nghymru, fe anrhydeddir taliadau grant i brosiectau a ariannwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru, p’un a yw’r cynhyrchiad wedi ei ganslo neu ei ohirio, a diolch i’r drefn fe delir nifer o ganlyniad i hynny, am brosiectau sydd wedi neu ar gychwyn.

Ond yr ofn pennaf i’r theatr a’r bobl sy’n ei chreu, yw beth a wynebir wedyn, mewn byd gwaith sy’n barhaol ansicr. Anodd meddwl am ganolfannau sydd mor allweddol i weithgaredd eu cymunedau fel Chapter yng Nghaerdydd neu Arad Goch yn Aberystwyth ar gau am gyfnod o unrhyw hyd. Bydd angen cefnogaeth eu cynulleidfaoedd ar nifer o ganolfannau o’r fath sydd yn gweithredu fel elusennau. Mae’r argyfwng yn her ddirfodol sy’n gorfodi meddwl mewn ffordd newydd am fodolaeth theatr ac mae nifer fawr o gwmnïau wedi ymateb i hynny’n greadigol ac yn gyflym. Mae sawl cwmni, fel Hijinx, yn ceisio meddwl am ffyrdd i barhau dros y cyfnod nesaf, a theatr na nÓg wedi gosod eu holl adnoddau dysgu arlein ac ar gael i bawb. Mae mynd i’r theatr i gyd-rannu profiad yn ddiriaethol, math o gymundod anodd ei gael mewn unrhyw fodd arall, yn rhywbeth fydd yn gorfod aros, am y tro. Serch hynny, mae ymdrechion ar waith i’w brofi mewn amryfal ffyrdd rhithiol. Cyhoeddodd y Sherman rhaglen Egwyl, sy’n rhoi cyfle i ddatblygu gwaith unigolion o bell o dan sawl cynllun arloesol gan gynnwys siarad â staff y Sherman arlein; comisynu awduron Cymru i sgwennu monologau 5 munud a berfformir ar Youtube, yn dilyn cynlluniau Papatango Isolated but Open, Voices from Across The Shutdown; rhoi proffil arlein i bobl llawrydd; a chreu adnoddau digidol er mwyn parhau i ymgysylltu â phobl ifanc yn ystod y cyfnod. Bu Frân Wen yn cynnal gweithdai byw arlein gyda phobl ifanc o’r enw #cymanfaFW sy’n ffrydio’n fyw ar sianel Youtube Frân Wen ac ar App ‘Am bob Dim’, a chynhelir eu sesiynau Hirael (gwaith gyda’r henoed) ar y ffôn. Bu Theatr Clwyd yn paratoi ‘pecynnau creadigol’ a bwyd i aelodau bregus yn y gymuned mewn cydweithrediad a’r gwasanaethau cyhoeddus a’r Gymdeithas Dai, a thrwy prosiect Arts from the Armchair gyda Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn darparu gweithgareddau creadigol i’r rhai sy’n byw â dementia. Ers i’r henoed a rhai bregus orfod hunan-ynysu, mae’r prosiect yn dosbarthu pecynnau creadigol i gartrefi’r aelodau mwyaf bregus.  Mae’r cynlluniau hyn i gefnogi’r gymuned, ac i hybu artistiaid newydd, yn agweddau o waith ein theatrau sydd efallai’n fwy cudd i nifer ymhlith eu cynulleidfaoedd.

Roedd National Theatre Scotland gyda’r cwmnïau cyntaf i gomisiynu rhaglenni arlein sylweddol mewn ymateb i’r argyfwng. Bydd tymor y Scenes for Survival, ar y cyd â BBC Scotland a chynllun Culture in Quarantine BBC Arts, yn darparu gweithiau drama digidol byr gydag actorion mawr ac awduron sylweddol, a fydd ar gael am ddim arlein. Ochr yn ochr â hyn bydd cyfle i ddramodwyr eraill i gael eu comisynu i greu darnau byr newydd a rhoddir cyfle i ddramodwyr sefydlog adnabyddus i gynnig eu ffi ymlaen i’r dramodwyr newydd. Gwneir hyn i gyd mewn partneriaeth â nifer o’r cwmnïau theatr yn yr Alban sydd wedi gorfod cau.

Ym Manceinion, mae canolfan gelfyddydau HOME wedi comisiynu Homemakers, rhaglen newydd o waith theatr a chelf byw gan artistiaid o’u cartrefi ac ar gyfer cynulleidfa sydd hefyd yn eu cartrefi. Gwneir hyn, meddent, er mwyn herio diffiniadau o ‘theatr fyw’ – naill ai drwy ffrydio byw; drwy ddangos perfformiadau wedi eu recordio; drwy gemau a straeon rhyngweithiol; neu gyfarfyddiadau personol arlein. Bydd y cyfan ar gael ar eu gwefan a gellid talu yr hyn a ddymunir amdano. Cyllidir y cynllun gan yr ymateb hael a roddwyd i’r HOME Response Fund lai nac wythnos wedi cyhoeddi ei fodolaeth ac ar ôl cau drysau’r ganolfan -  tystiolaeth digamsyniol o werth y ganolfan i’r gymuned leol. Rhennir yr elw rhwng y Ganolfan a’r artistiaid er mwyn buddsoddi yn nyfodol y lleoliad parhaol a’r gweithwyr llawrydd.

Fe gafwyd ymateb hefyd gan ymarferwyr profiadol a blaenllaw yn rhybuddio rhag yr ysfa i orfod cystadlu i fod y mwyaf beiddgar yn ddigidol. Nid surni mo hyn, ond awydd i gofio bod theatr yn weithred fyw, yr ysfa i gysylltu â’n gilydd, a’r angen i feddwl yn ofalus am ddyfodol ein theatrau ni. Hyd yn hyn, fodd bynnag, mae’r rhan fwyaf o’r arlwy theatraidd a roddwyd arlein yn recordiadau yn hytrach na phrofiadau byw; gweler yr erthygl hon yn y Guardian. Ond mae gwerth hefyd mewn ystyried potensial cyd-dystio i weithred fyw hyd yn oed os yw’n digwydd o bell. Mae un o aelodau’r Ganolfan, Christina Papagiannouli, wedi sgwennu’n helaeth am seiberberfformiad – perfformiadau byw arlein a’i holl bosibiliadau yn Political Cyberperformance (Palgrave Macmillan, 2016). Mae’n disgrifio’r symudiad tuag at gymuned arlein a beth allasai hynny olygu ar gyfer theatr gyfrannogol, ryngweithiol a’i ymgysylltiad â’r gymuned. I Papagiannouli mae posibiliadau gwleidyddol y cyfrwng yn bresennol iawn. Ac mae hynny’n rhywbeth sy’n werth ei ystyried yn y modd y bydd theatr yn ymateb i’r argyfwng – fel celfyddyd weithredol a chymdeithasol sydd o bwys i’w chyfranogwyr.

Mewn argyfwng fel hyn, gyda’r diwydiant drama deledu hefyd ar saib, anodd gwybod beth fydd yr effaith hirdymor ar y sector. Mae un peth yn sicr, ar drothwy Diwrnod Theatr y Byd (27 Mawrth 2020), rhaid ystyried a chynllunio sut mae’r gymuned theatr i oroesi yn llythrennol.

#cenhedloeddbach