Diolch i gyllid gan PDC a Llywodraeth Cymru, cwblhaodd yr
Athro Paul Carr gyfres o
dri adroddiad ar gyfer
Cymru Greadigol yn ddiweddar.
Yn
y cyntaf, adeiladodd gronfa ddata o Leoliadau Cerddoriaeth Cymru, Stiwdios Recordio ac ystafelloedd Ymarfer a'u gosod ar fap digidol
Ymhlith y penawdau
- Mae'r map yn cynnwys 554 o fusnesau ar draws 22 awdurdod lleol Cymru, gan gynnwys 75 stiwdio recordio, 7 stiwdio ymarfer bwrpasol a 472 lleoliad cerddoriaeth.
- Caerdydd sydd â'r nifer fwyaf o fusnesau (64), ac yna Abertawe (49), Sir Gaerfyrddin (48) a Sir Benfro (43).
- Abertawe sydd â'r mwyaf o leoliadau cerddoriaeth (47), yna Caerdydd (45), Sir Gaerfyrddin (44) a Sir Benfro (42).
- Powys sydd â'r nifer fwyaf o wyliau cerddoriaeth (10), ac yna Gwynedd (5), Abertawe (4) a Cheredigion (4).
- Caerdydd ac Abertawe sydd â'r mwyaf o leoliadau ar gyfer Cerddoriaeth Llawr Gwlad (7 a 5 yn y drefn honno), yna Wrecsam (3), Rhondda Cynon Taf (3), Casnewydd (2), Sir y Fflint (1) a Sir Fynwy (1).
Roedd y ddau adroddiad arall yn ymwneud â gwerth ariannol y Diwydiannau Cerddoriaeth Gymreig cyn ac yn dilyn covid ar gyfer 2019 a 2020.
Ymhlith y penawdau
Yn 2019, cynhaliodd y Diwydiannau Cerddoriaeth yng Nghymru:
- 243m o ran GYC a 7790 o swyddi.
- Cafodd £131m o hyn a 3876 o'r swyddi hyn eu cynnal yn uniongyrchol gan y diwydiannau cerddoriaeth.
- Cyfrannodd cerddoriaeth fyw £115m.
- Cyfrannodd crewyr cerddoriaeth 2,000 o swyddi - mwy nag unrhyw ran arall o ddiwydiannau cerddoriaeth Cymru.
- Roedd cwymp yn y diwydiannau hyn yng Nghymru yn 2020, oherwydd pandemig COVID-19.
- Cafodd GYC ei leihau gan 55% i £109m a gostyngodd cyflogaeth 19% i 6322.
- Profodd y sector cerddoriaeth fyw gostyngiad o 90% o ran GYC.
- Yn ystod 2020, cyferbynnodd y gostyngiad o 90% mewn cerddoriaeth fyw â chynnydd o 3% o ran GYC mewn cerddoriaeth wedi'i recordio a chyhoeddi cerddoriaeth. Cafodd y cynnydd hwn ei yrru gan barhad ffrydio cerddoriaeth yn ystod y cyfnodau clo.
Dewch o hyd i'r adroddiadau hyn ac allbynnau ymchwil eraill gan yr Athro Paul Carr yn ein storfa ymchwil.