Tîm Ymchwil: Dr Rhiannon Williams (Prifysgol De Cymru), Lowri Davies (artist)
Crynodeb: Mae Bregus yn berfformiad ac yn osodiad celfyddydol sydd yn cael ei berfformio ar safle penodol. Mae Bregus yn craffu ar rôl y ferch yng nghymdeithas y capel Cymraeg drwy ddefnyddio'r ddefod o fenywod yn gweini te mewn festri capel fel dechreubwynt. Cafodd y thema ei ddatblygu wrth i Williams a Davies gyd-drafod, ac yna crëwyd gwaith yn eu naratif eu hunain; gyda Williams yn archwilio’r testun drwy berfformiad, a Davies drwy serameg. Digwydda Bregus wrth i’r artistiaid gyfuno mewn gofod festri ar gyfer cyflwyniad unedig.
Nod: Nod y prosiect yw archwilio rôl y ferch yng nghymdeithas y capel Cymraeg, gan edrych hefyd ar rôl y ferch mewn cymdeithas Gymraeg yn ehangach. Mae’r gwaith hefyd yn edrych ar sut y mae modd cyfuno naratif drwy berfformiad (llafar, symud a chan), serameg a barddoniaeth, er mwyn cyfleu anian testun. Mae’n nod hefyd i annog y gynulleidfa i gymryd rhan mewn trafodaeth anffurfiol yn dilyn y cyflwyniad.
Amcanion: Parhau i berfformio’r darn i gynulleidfaoedd mewn festri capeli ledled Cymru. Edrych ar y posibiliad o ddatblygu’r perfformiad ymhellach a goblygiadau hyn o ran natur y gwaith a’r berthynas gyda’r gynulleidfa. Edrych mewn i ffyrdd o gofnodi’r perfformiadau mewn ffyrdd aml-haenog fydd yn cyfrannu at ddealltwriaeth amgen o’r gwaith.
Allbynnau:
Perfformiad, Festri Capel Tabernacl yr Ais, Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, Awst 2018
Trafodaeth ac arddangosfa galeri (Gallery talk and exhibit), Bregus, cynhadledd TAPRA, Medi 2018
Perfformiad, Festri Capel Tabernacl yr Ais, Chwefror 2019.
Perfformiad, Festri capel Seion, Aberystwyth, Mawrth 2019, fel rhan o gynhadledd ‘Beth yw ystyr bod yn Gristion yng Nghymru’r 21ain Ganrif’ gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac Urdd Graddedigion Prifysgol Cymru.
Cyflwyniad seminar gyhoeddus, Bregus, Canolfan astudio’r cyfryngau a diwylliant mewn cenhedloedd bach, Mawrth 2019.
Perfformiad, Festri capel Salem, Caernarfon, fel rhan o’r ŵyl ddiwylliannol, Gŵyl Arall, Gorffennaf 2019
Pennod mewn llyfr arfaethedig, Bregus, yn Wales and Theology, i’w gyhoeddi yn 2020 gan Gwasg Prifysgol Cymru.
Research Team: Dr Rhiannon Williams (University of South Wales), Lowri Davies (artist)
Summary: Bregus (meaning fragile) is a site-specific performance and artistic installation that scrutinizes the role of the woman in Welsh chapel society by using the ritual of women serving tea in a chapel vestry as a starting point. Bregus happens when the artists combine in a vestry space for a presentation on the theme, with Williams exploring the topic in performance, and Davies in ceramics.
Aim: The aim of the project is to explore the role of the woman in Welsh chapel society, whilst also looking at the role of the woman in Welsh society in general. The work also looks at how narrative can be combined through performance (speech, movement and song), ceramics, and poetry to convey the mood of a text. It also aims to encourage the audience to engage in informal discussion following the presentation.
Objectives: Continue to perform the piece for audiences in chapel vestry throughout Wales. Explore the potential for further development of the performance and its implications for the nature of the work and the relationship with the audience. Explore ways of recording the performances in multi-layered ways that will contribute to an alternative understanding of the work.
Outputs:
Performance, Tabernacle Chapel Vestry, The National Eisteddfod of Cardiff, August 2018
Gallery talk and exhibition (Gallery talk and exhibition), Bregus, TAPRA conference, September 2018
Performance, Tabernacle Chapel Vestry, Cardiff, February 2019.
Performance, Seion Chapel Vestry, Aberystwyth, March 2019, as part of a 'What does being a Christian in 21st Century Wales' conference with the Coleg Cymraeg Cenedlaethol and the University of Wales Graduate Guild.
Public seminar presentation, Bregus, Centre for the study of media and culture in small nations, March 2019.
Performance, Salem chapel vestry, Caernarfon, as part of the cultural festival, Gŵyl Arall, July 2019
Chapter in a forthcoming book, Bregus, in Wales and Theology, to be published in 2020 by the University of Wales Press.