Clwstwr

Tîm Ymchwil: Cyfarwyddwr, Yr Athro Justin Lewis (Prifysgol Caerdydd), Cyd-Gyfarwyddwyr, Yr Athro Ruth McElroy (Prifysgol De Cymru) a Jarred Evans (Prifysgol Metropolitan Caerdydd)

Cyllidwr: AHRC a Llywodraeth Cymru

Gwefanhttps://clwstwr.org.uk

Cyfnod: 2018-2023

Crynodeb: Mae Clwstwr yn un o’r 9 canolfan yn y DU ar gyfer Ymchwil a Datblygu a ariennir gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau a’i Raglen Clystyrau’r Diwydiannau Creadigol. Dyma’r buddsoddiad cyntaf o’i fath gan y llywodraeth yn niwydiannau creadigol bywiog y DU, sydd o bwysigrwydd byd-eang, a’r mwyaf sylweddol i’r Cyngor Ymchwil ei sicrhau erioed. Mae’n rhan o Gronfa Her y Strategaeth Ddiwydiannol a ddarperir gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau ar ran Ymchwil ac Arloesi’r DU.  Mae Clwstwr yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru, sy’n cyd-ariannu ein rhaglen o fwy na 60 prosiect Ymchwil a  Datblygu.

Wedi’i leoli ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd, mae Clwstwr yn gweithio’n gydweithredol gydag ystod o bartneriaid diwydiannol a sefydliadau angorol fel y BBC, S4C, Cyngor Celfyddydau Cymru, Ffilm Cymru Wales a Cyngor Dinas Caerdydd i gyllido a chreu arloesedd yn sectorau sgrîn a newyddion y rhanbarth.

Mae Clwstwr yn brosiect Ymchwil a Datblygu cydweithredol rhwng tair prifysgol y brifddinas, sef Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Phrifysgol De Cymru. Mae tîm o 10 o gyd-ymchwilwyr o’r tair prifysgol, wedi’i arwain gan yr Athro Ruth McElroy, yn cyflawni’r ymchwil sy’n sylfaenol i feysydd heriol rhaglen Clwstwr gan weithio’n agos gyda phob prosiect unigol a gyllidir er mwyn hysbysu’r broses Ymchwil a Datblygu.  

Nod: Nod Clwstwr yw sicrhau bod arloesedd wrth wraidd cynhyrchu’r cyfryngau yn Ne Cymru - gan symud y sector sgrin o sefyllfa o gryfder i un sy’n arwain yn rhyngwladol.


Am wybodaeth bellach am y prosiect cysylltwch a’r Rheolwr Ymgysylltu a Chyfathrebu Kayleigh McLeod [email protected]

Trydar: @ClwstwrCreu


Research Team: Director Professor Justin Lewis (Cardiff University), Co-Directors Professor Ruth McElroy (University of South Wales) and Jarred Evans (Cardiff Metropolitan University)

Funder: AHRC and Welsh Government

Websitehttps://clwstwr.org.uk

Duration: 2018-2023

Summary: Clwstwr is one of just 9 UK centres for Research and Development (R&D) funded through the AHRC’s Creative Industries Cluster Programme. This government investment is the first of its kind in the UK’s vibrant and globally important creative industries, and the most significant that the AHRC has secured in its history. It is part of the Industrial Strategy Challenge Fund delivered by the Arts and Humanities Research Council on behalf of UK Research and Innovation (UKRI). Clwstwr works closely with Welsh Government which co-funds our programme of more than 60 R&D projects.

Based in the Cardiff Capital Region, Clwstwr works collaboratively with a host of  industry partners and anchor organisations such as BBC, S4C, Arts Council Wales. Ffilm Cymru Wales and Cardiff City Council to fund and deliver innovation in the region’s screen and news sectors.

Clwstwr is a collaborative R&D project between the capital city’s three universities, Cardiff University, Cardiff Metropolitan University and University of South Wales. A team of 10 Co-investigators drawn from all 3 universities, led by Professor Ruth McElroy, provides the research underpinning Clwstwr’s programme challenge areas working closely with each individual funded project to inform the R&D process.

Aim: Clwstwr aims to put innovation at the core of media production in South Wales - moving Cardiff’s thriving screen sector from strength to leadership.




For further information about the project, please contact our Engagement and Communications Manager Kayleigh McLeod at [email protected].

Twitter: @ClwstwrCreu