Screen Agencies as Cultural Intermediaries

SNS logo

Asiantaethau Sgrin fel Cyfryngwyr Diwylliannol: Negodi a Chreu Polisi Diwylliannol ar gyfer Ffilm a Theledu

Mae’r astudiaeth hon yn darparu’r astudiaeth gymharol raddfa-fawr gyntaf o asiantaethau sgrin o fewn saith gwlad Ewropeaidd fach. Mae’n asesu eu heffaith ar allbynnau ein diwydiannau ffilm a theledu ac yn tyfu allan o ymchwil flaenorol o’r cenhedloedd hyn a’u sectorau creadigol.

Hyd: Mehefin 2018 – Mehefin 2020

Cyllid: Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau

Prif Ymchwilydd: Dr Caitriona Noonan (Prifysgol Caerdydd)

Cyd-Ymchwilydd: Yr Athro Ruth McElroy (Prifysgol De Cymru)

Gwefan: https://smallnationsscreen.org/ 

Nod: Nod y prosiect hwn yw cael effaith mewn sawl maes:

1. Effaith Polisi

Dyma gyfnod o newid ar gyfer y sector sgrin (e.e. ymddangosiad technolegau digidol) ac ar gyfer hunaniaeth ddiwylliannol wrth i’r dirwedd wleidyddol symud (e.e. ar ôl Brexit). Yn y cyd-destun hwn, bydd gwneud polisïau effeithiol hyd yn oed yn bwysicach. Mae’r ymchwil hwn yn cyfrannu at hynny trwy sicrhau data rhyngwladol trylwyr ac amserol a fydd yn sail i lunio polisïau a hwyluso ymyriadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth.

2. Effaith Ddiwylliannol ac Economaidd

Nod yr ymchwil yw gwireddu effaith economaidd trwy ddarparu dadansoddiad beirniadol o ddata ansoddol a meintiol i randdeiliaid sy’n dangos sut y cyflawnir nodau economaidd a diwydiannol lleol mewn marchnad ryngwladol gystadleuol.

3. Effaith ar fywyd cyhoeddus yng Nghymru

Bydd yr ymchwil hwn yn cyfrannu at y dyfodol hwn trwy gryfhau’r broses o wneud penderfyniadau sy’n ymwneud â strwythurau sefydliadol cymorth cyhoeddus.

Amcanion: Dyfnhau ac ymestyn ein dealltwriaeth feirniadol o wneud cynnwys creadigol a’r ffyrdd y mae polisi diwylliannol yn cael ei ffurfio a’i ddeddfu.

Allbynnau Ymchwil: Bydd y gwaith hwn yn cymryd nifer o ffurfiau gan gynnwys allbynnau academaidd, adroddiadau a chyfarwyddiadau polisi sy’n tynnu sylw at arfer gorau ac astudiaethau achos, ynghyd â'r prif gasgliadau ac argymhellion.

SNS logo

Screen Agencies as Cultural Intermediaries: Negotiating and Shaping Cultural Policy for the Film and TV

This study provides the first large-scale comparative study of screen agencies within seven small European nations. It assesses their impact on the outputs of our film and television industries and grows out of previous research of these nations and their creative sectors.

Duration: June 2018 – June 2020

Funding: Arts and Humanities Research Council

Principal Investigator: Dr Caitriona Noonan (Cardiff University)

Co-Investigator: Prof. Ruth McElroy (University of South Wales).

Website: https://smallnationsscreen.org/ 

Aim: This project aims to make an impact in several domains:

1. Policy Impact

This is an era of change for both the screen sector (e.g. emergence of digital technologies) and for cultural identity as the political landscape shifts (e.g. post-Brexit). In this context effective policy-making will be even more important. This research contributes to that by securing rigorous and timely international data that will inform policy-making and facilitate evidence-based interventions.

2. Cultural and Economic Impact

The research aims to realise economic impact by providing stakeholders with critical analysis of comparative qualitative and quantitative data that reveals how local economic and industrial goals are achieved in a competitive international market.

3. Impact on public life in Wales

This research will contribute to this future by strengthening decision-making relating to the organisational structures of public support.

Objectives: To deepen and extend our critical understanding of the making of creative content and the ways in which cultural policy is shaped and enacted.

Research Outputs: This work will take a number of forms including academic outputs, reports and policy briefings which highlight best practice and case studies, along with the main conclusions and recommendations.