Deialogau Diwylliannol Cymreig a Chasi / Welsh and Khasi Cultural Dialogues

Deialogau Diwylliannol Cymreig a Chasi: Prosiect rhyngddisgyblaethol mewn Celfyddydau a Pherfformiad

Tîm Ymchwil: Yr Athro Lisa Lewis, (Prifysgol De Cymru), Dr Aparna Sharma (UCLA), Dr Helen Davies (Prifysgol De Cymru), Yr Athro Desmond Kharmawphlang (NEHU).

Cyllidwr: The Leverhulme Trust.

Gwefan: www.welshkhasidialogues.co.uk

Crynodeb: Mae'r prosiect yn defnyddio celfyddydau creadigol i archwilio hanes y gyfnewidfa ddiwylliannol rhwng pobl Cymru a phobl Casi gogledd-ddwyrain India a wreiddir yn hanes Cenhadaeth Dramor y Methodistiaid Calfinaidd Cymreig ym Mryniau Casia rhwng 1841 ac 1969. Defnyddir celfyddydau creadigol fel modd o adeiladu 'deialog ddiwylliannol' rhwng ysgolheigion creadigol o Gymru ac India - deialog sy'n archwilio ac yn ymateb i'n perthynas hanesyddol.

Nod: Y prif nod yw archwilio’r modd y mae hanes diwylliannol a rennir rhwng gwahanol bobloedd yn ffurfio hunaniaethau yn y byd modern.

Amcanion: Cafodd y berthynas ryngddiwylliannol Gymreig-Casi ei sianelu drwy lwybrau a chyfryngau penodol, fel cred ac arferion crefyddol, ysgrifau gan fenywod ynglŷn â’u profiadau, amrywiol draddodiadau llenyddol a gweledol, a hanesion llafar. Mae'r ymchwil yn dilyn y cwestiynau a gyfyd wrth ystyried y gweithiau hyn, e.e. drwy archwilio'r modd mae'r gyfnewidfa ddiwylliannol yn amlygu'i hun mewn perthynas ac arferion crefyddol neu fynegiant diwylliannol gan fenywod. Yn ogystal â hyn archwilir materion ehangach, megis y modd y mae sefyllfa ymylol pobl Cymru a Chasia (mewn perthynas â chategorïau ehangach fel yr Ymerodraeth Brydeinig a chenedl India) wedi effeithio ar natur y gyfnewidfa ddiwylliannol.

Canlyniadau: Yn ogystal a pherfformiadau byw, ffilmiau byrion ac arddangosfa a fydd yn digwydd tua diwedd 2019, cyhoeddir canlyniadau mewn papurau cynhadledd ac amrywiaeth o gyfnodolion ysgolheigaidd.

Cyllidwyd gan:

leverhulme blue  

Am fwy o wybodaeth am y prosiect, cysylltwch â Yr Athro Lisa Lewis ([email protected]) a Dr Helen Davies ([email protected]) .

Welsh and Khasi Cultural Dialogues: An Interdisciplinary Arts and Performance Project

Research Team: Professor Lisa Lewis, (University of South Wales), Dr Aparna Sharma (UCLA), Dr Helen Davies (University of South Wales), Professor Desmond Kharmawphlang (NEHU).

Funder: The Leverhulme Trust.

Website: www.welshkhasidialogues.co.uk

Summary: This interdisciplinary project in creative arts investigates the shared cultural history of the people of Wales and the Khasi people of Northeast India that is rooted in the history of the Calvinistic Methodist Mission to the Khasi Hills between 1841 and 1969. The project uses creative arts practice to construct a ‘cultural dialogue’ between Welsh and Indian scholar-practitioners, one that investigates and responds to our historical relationship.

Aim: The aim of the project is to investigate how shared cultural histories have shaped identities in the modern world.

Objectives: The expression of the Welsh-Khasi intercultural relationship was channeled through particular avenues and media, such as religious belief and practices, female experience and expression, literary and visual traditions and oral histories. The research follows closely the questions raised by these avenues and media, e.g. by looking at the way in which cultural exchange has been filtered through religious beliefs and practices or women’s cultural expression. The project also examines the peripheral situation of both Welsh and Khasi peoples (in relation to broader categories such as the British Empire and the Indian nation) and the way this has affected the nature of intercultural exchange.

Research Outputs: As well as a range of performance and film works to be shown at the end of 2019, outcomes include conference papers and scholarly publications in a range of journals.

Funded by:

leverhulme blue

For further information about the project, please contact Professor Lisa Lewis ([email protected]) and Dr Helen Davies ([email protected]) .