Y Pethau Mud

Y Pethau Mud: gwerth amgen testun theatraidd.

Tim Ymchwil: Dr Sera Moore Williams (Prifysgol De Cymru), Dr Rhiannon Williams (Prifysgol De Cymru), Matthew Davies (Prifysgol De Cymru), Sian Summers (Prifysgol De Cymru), Rhys ap Trefor Perfformiwr/Cyfarwyddwr llawrydd).

Cyllidwr: Theatr Genedlaethol Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru.

Blog: https://pethaumud.home.blog/

Crynodeb: Testun ar gyfer y theatr gan Sera Moore Williams yw Y Pethau Mud. Mae’r testun yn deillio o lythyrau teulu gan filwr at ei fam o ffosydd Y Rhyfel Mawr. Wedi ei gomisiynu (fel drama) yn wreiddiol gan Theatr Genedlaethol Cymru, ond heb ei gynhyrchu, cafodd y testun ei ddatblygu yn annibynnol trwy weithio gydag ‘ensemble’  beirniadol trwy sawl drafft a gan roi ystyriaeth i leoliad, amser, gweithred ac iaith.

Nod: Nod y prosiect yw i archwilio proses ddramatwrgaidd sy’n deillio o weithio fel dramodydd-gyfarwyddwr gydag ‘ensemble’ beirniadol ac i archwilio y posibliadau amgen (ychwanegol) all ddeillio o destun theatr yng nghyd-destun y theatr yng Nghymru.

Amcanion: Cynhyrchu testun neu destunau newydd ar gyfer y theatr. Creu cynhyrchiad teithiol cyfrwng Cymraeg a/neu dwyieithog o Y Pethau Mud. Cynnal cyfres o weithgareddau gyda chymunedau sy’n defnyddio neuaddau coffa gan ddefnyddio’r testun fel ‘sbardun i waith/weithiau newydd.

Allbynau:

Darlleniad o waith ar y gweill, Y Cwt Drama, Eisteddfod Genedlaethol Llanelli, Awst 2014.

Perfformiad sgript mewn llaw (bocs du) o ddrafft 1af cyflawn, Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, Yr Atriwm. Awst 2018.

Perfformiad sgript mewn llaw (bocs du) o ail ddrafft am 11 y bore ar yr 11/11/18.

Dangosiad cyhoeddus wedi cyfnod pellach o ymchwil a datblygu ar leoliad. Neuadd Goffa Tredelerch, Caerdydd. 29/1/19.

Seminar Ymchwil Y Pethau Mud: gwerth amgen testun theatraidd. Yr Atrium. (Cyhoeddus). 13/3/19

Y Pethau Mud: the alternative values of a theatrical text.

Research Team: Dr Sera Moore Williams (University of South Wales), Dr Rhiannon Williams (University of South Wales), Matthew Davies (University of South Wales), Sian Summers (University of South Wales), Rhys ap Trefor (Freelance Performer / Director).

Funder: Theatr Genedlaethol Cymru, Arts Council of Wales.

Blog: https://pethaumud.home.blog/

Summary: Y Pethau Mud is a theatrical text by Sera Moore Williams. The text originates from family letters from a soldier to his mother from the trenches of the Great War. Originally commissioned (as a play) by Theatr Genedlaethol Cymru, but not produced, the text was developed independently by working with a critical 'ensemble' through several drafts and taking into account location, time, action and language.

Aim: The aim of the project is to explore the process of dramaturgy as a writer-director working with a critical 'ensemble' and to explore the alternative (or additional) possibilities a theatre text may offer in the context of contemporary Welsh theatre.

Objectives: To produce a new theatre text or texts. Create a Welsh-medium and / or bilingual touring production of Y Pethau Mud. To create and deliver a series of activities with communities who use memorial halls using the text as a springboard for new work or works.

Outputs:

A reading of work in progress, Y Cwt Drama, Llanelli National Eisteddfod, August 2014.

Script in hand (black box) performance of complete 1st draft, the Atrium, during the National Eisteddfod, Cardiff. August 2018.

Script in hand (black box) performance of 2nd draft at 11am on 11/11/18 at the Atrium, Cardiff.

Public showing following a further period of research and development on site. Rumney Memorial Hall, Cardiff. 29/1/19.

Y Pethau Mud Research Seminar: the alternative values of a theatrical text. The Atrium. (Public). 13/3/19